Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 22 Medi 2015 a dydd Mercher 23 Medi 2015
Dydd Mawrth 29 Medi 2015 a dydd Mercher 30 Medi 2015
Dydd Mawrth 6 Hydref 2015 a dydd Mercher 7 Hydref 2015
Dydd Mawrth 22 Medi 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Ymrwymiadau yn ystod y flwyddyn 2015-16 (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Creu Cymwysterau Cymru (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Cynllun Gofal Sylfaenol - diweddariad ar ôl blwyddyn (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Gynllun Cenedlaethol Cyllid Trafnidiaeth 2015 (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Ymelwa Busnes Band Eang Cyflym Iawn (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 23 Medi 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 29 Medi 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (180 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw'r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 30 Medi 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl fer - Mark Isherwood (Gogledd Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 6 Hydref 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 7 o'r Ddeddf (10 munud)
· Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 8 o'r Ddeddf (10 munud)
· Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Personau nad yw’r Galluedd Ganddynt i Gydsynio) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 9 o'r Ddeddf (10 munud)
· Cod Ymarfer yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (10 munud)
· Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 7 Hydref 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud)